
Bywgraffiad
Er fy mod wedi cael fy nwyn fynnu ar yr ynys, dwi’n byw ym Mangor ers fy mod yn 18 oed! Dechreuodd fy nhaith i’r Cyngor fel porthor yn Ysbyty Gwynedd, gyda ysbeidiau yn y BBC, y Brifysgol, Coleg Meirion Dwyfor, a busnes TG fy hyn ar hyd y ffordd.
Dwi wedi gwirfoddoli i wahanol fudiadau ers degawdau. Radio Ysbyty Gwynedd, Clwb Peldroed Penrhosgarnedd, a clwb karate Seki Ryu Zan yn benaf.
Profiad Cyngor
Aelod Cabinet Cyllid a Technoleg Gwybodaeth
(ers Rhagfyr 2024)
Blaenorol
Pwyllgor Cynllunio (2017-24)
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (2017-22)
Pwyllgor Craffu Addysg a’r Economi (2017-22)
Pwyllgor Apelau Cyflogaeth (2017-22)
Cyfarfod Herio a Chefnogi’r Adran Gyllid (2018-22)
Llywodraethwr Ysgol Hirael (ers 2017)
Ymddiriedolwr Canolfan Gymdeithasol y Garth
Llwyddiannau
Llwybr Lon Cariadon
Ar ôl chwe mlynedd o bwyso ar y Cyngor cafwyd y newid mwyaf mewn diogelwch ar Lon Cariadon ers degawdau. Er nad yw’r palmant paentiedig yn berffaith o bell ffordd mae’n sicr yn fy marn i wedi gwella diogelwch cerddwyr yn sylweddol. Y sialens nesaf bydd sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a chadw yn addas mewn amser o gynni ariannol.

Helpu sefydlu Cadw Bangor’n Daclus
Mae Cadw Bangor’n Daclus – hwb swyddogol Cadw Cymru’n Daclus – yn ceisio cyfarfod unwaith y mis i hel sbwriel mewn gwahanol ardaloedd o Fangor. Bydde mwy o wirfoddolwyr yn braf, ond mae’r cnewyllyn o aelodau selog yn dal ati ym mhob tywydd! Dewch i ymuno efo ni?
Llwybr Parc y Brifysgol
Gan fod diogelwch Lon Cariadon mor ddifrifol ceisiais ddwyn perswâd ar Y Brifysgol i ail-agor y llwybr o ben Lon Cariadon i mewn i Barc y Brifysgol. Modd angen i gael i ganol y ddinas, neu i fynd a’r ci am dro. Yn anffodus doedd y Rheolwr Ystadau nol yn 2017/18 ddim yn gefnogol. Yn ffodus i mi daeth newid yn yr Adran Ystadau a daeth cefnogaeth i’r cynllun!

Coed Sakura Caeau Ashley Jones
Yn wreiddiol y cynllun cafodd ei drafod yn Cyngor Dinas Bangor oedd plannu yr holl goed Sakura mewn un bloc yn rhan gorllewinol Caeau Ashley Jones. Yn ffodus llwyddais i ddwyn perswâd ar fy nghyd aelodau i mabwysiadu cynllun ‘promenade’ ar hyd llwybr deheuol y caeau.
Y Bae “Phase 2”
Yn 2017 roedd Grŵp Watkin Jones eisiau codi fflatiau hyd at 5/6 llawr o uchder ar beth sy’n weddill o’r hen iard gychod Dickies. Daeth grŵp bach o ymgyrchwyr at ei gilydd i wrthwynebu’r cais cynllunio ac – ar ôl blynyddoedd o waith – llwyddo i atal y cynllun.
Yn anffodus dwi ddim yn credu fod y frwydr ar ben. Mae’r datblygwr dal yn awyddus i ddatblygu’r tir – er ei fod yn safle cwbl anaddas i anheddau. Bydd angen cadw llygad barcud ar hwn.
Y Dyfodol
Achub Tafarn y Glôb
Pan gaewyd drysau Tafarn y Glôb yn haf 2026 collodd Bangor un o’i sefydliadau mwyaf eiconig. Roedd Y Glôb yn fyd enwog fel canolfan diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Colled enfawr i Fangor. Ar hyn o bryd dwi’n trafod gyda cyfeillion o’r un farn opsiynau posib i achub ac adnewyddu’r dafarn.
‘Sofraniaeth Digidol’ y Cyngor/Cymru
Un i’r nerds! Mae sefydliadau Cymru yn gaeth i dechnoleg o’r Unol Daleithiau, ar gost o ddegau o filiynau y flwyddyn yng Nghymru yn unig. £100m + efallai! Yn y cyfamser mae gwledydd Ewrop yn cefnu ar dechnoleg yr UDA ac yn mabwysiadu meddalwedd cod-agored cynhenid – ac yn arbed miliynau yn y broses. Yn bersonol hoffwn weld Cymru’n gwneud yr un peth ac y gwario yr arian ar ein pobl a gwasanaethau ein hunain.