
Huw Wyn Jones
Ward: Canol Bangor
Bywgraffiad
Er fy mod wedi cael fy nwyn fynnu ar yr ynys, dwi’n byw ym Mangor ers fy mod yn 18 oed! Dechreuodd fy nhaith i’r Cyngor fel porthor yn Ysbyty Gwynedd, gyda ysbeidiau yn y BBC, Prifysgol Bangor, Coleg Meirion Dwyfor, ynghyd a rhedeg busnes Technoleg Gwybodaeth fy hyn ar hyd y ffordd.
Dwi wedi gwirfoddoli i wahanol fudiadau ers degawdau. Radio Ysbyty Gwynedd, Clwb Peldroed Penrhosgarnedd, a clwb karate Seki Ryu Zan yn benaf.
Profiad Cyngor
Aelod Cabinet Cyllid a Technoleg Gwybodaeth
(ers Rhagfyr 2024)
Blaenorol
Pwyllgor Cynllunio (2017-24)
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (2017-22)
Pwyllgor Craffu Addysg a’r Economi (2017-22)
Pwyllgor Apelau Cyflogaeth (2017-22)
Cyfarfod Herio a Chefnogi’r Adran Gyllid (2018-22)
Llywodraethwr Ysgol Hirael (ers 2017)
Ymddiriedolwr Canolfan Gymdeithasol y Garth
Llwyddiannau
Y Dyfodol
Achub Tafarn y Glôb
Pan gaewyd drysau Tafarn y Glôb yn haf 2026 collodd Bangor un o’i sefydliadau mwyaf eiconig. Roedd Y Glôb yn fyd enwog fel canolfan diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Colled enfawr i Fangor ac i Gymru. Ar hyn o bryd dwi’n trafod gyda cyfeillion opsiynau posib i achub ac adnewyddu’r dafarn.
‘Sofraniaeth Digidol’ y Cyngor/Cymru
Un i’r nerds! Mae sefydliadau Cymru yn gaeth i dechnoleg o’r Unol Daleithiau, ar gost o ddegau o filiynau y flwyddyn yng Nghymru yn unig. £100m + efallai! Yn y cyfamser mae gwledydd Ewrop yn cefnu ar dechnoleg yr UDA ac yn mabwysiadu meddalwedd cod-agored cynhenid – ac yn arbed miliynau yn y broses. Yn bersonol hoffwn weld Cymru’n gwneud yr un peth ac y gwario yr arian ar ein pobl a gwasanaethau ein hunain.
